CLA518 - Rheoliadau'r Bwrdd Marchnata Llaeth (Cymru a Lloegr) (Dirymu) 2015
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu tri darn o is-ddeddfwriaeth 'darfodedig' o ganlyniad i'r Her Biwrocratiaeth. Mae'r offerynnau dan sylw yn ymwneud â'r Bwrdd Marchnata Llaeth gyfer Cymru a Lloegr - yn arbennig ag anghydfodau sy'n codi o ganlyniad i'w ad-drefnu a dirwyn ei faterion i ben. Mae'r rhain yn offerynnau diangen, gan fod y Bwrdd wedi'i ddiddymu ar 31 Ionawr 2002 (gan OS 2002/128).
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Bydd y Rheoliadau hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac maent yn ddarostyngedig i'w cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau dŷ Senedd y DU. Maent felly yn cael eu gwneud yn Saesneg yn unig.
Rheol Sefydlog 21.2(ix): nad yw'r offeryn wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg;
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ebrill 2015